Love Zimbabwe

Love Zimbabwe

Enw’r Busnes: Love Zimbabwe
Lleoliad: Cymru Gyfan
Busnes: Stondin Crefftau Masnach Deg

Mae Martha Musonza Holman yn gwerthu crefftau a fasnachwyd yn deg o Zimbabwe mewn ffeiriau crefftau a marchnadoedd o Fôn i Fynwy. Mae’r cynnyrch yn cynnwys offerynnau a cherfluniau a wnaed o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a chrochenwaith hardd.

Gwerthoedd
Nod Martha yw helpu ei chymuned frodorol drwy fasnach yn hytrach na chymorth. Mae’r incwm a geir o werthu’r crefftau yn helpu i ddarparu swyddi ac incwm sefydlog ar gyfer y gymuned Mudzi yn Zimbabwe. Mae model busnes menter gymdeithasol yn addas i nodau’r busnes.

Bwrw iddi
Dechreuodd Martha werthu crefftau yn Llundain yn 2001. Serch hynny, wrth iddi deithio o amgylch y DU gwelodd fod pobl Cymru yn croesawu’r cysyniad masnach deg ac yn cydymdeimlo â sefyllfa pobl yn Zimbabwe. Mae ei busnes bellach wedi’i leoli yn y Fenni.

Datblygu busnes
Mae Martha yn arallgyfeirio i ddarparu gweithdai am Fasnach Deg i ysgolion i gynhyrchu rhagor o incwm. “Mae gan bobl ifanc synnwyr da iawn o degwch”, meddai Martha.

Manylion Cyswllt Martha Musonza Holman
07879400897
http://ilovezimbabwe.co.uk

 



Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop