HomeCanolfan Cydweithredol Cymru

Croeso i wefan Canolfan Cydweithredol Cymru

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cefnogi datblygu cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ogystal â mynd i’r afael ag allgau cymdeithasol a dod ag unigolion sy’n economaidd anweithgar yn ôl i fyd gwaith.

Mae tîm ymgynghorwyr busnes y Ganolfan yn gweithio ledled Cymru, gan rymuso unigolion a chymunedau i fod yn gyfrifol am eu dyfodol eu hunain a sefydlu busnesau sydd â nodau cymdeithasol a moesol yn ogystal ag amcanion economaidd cadarn.

Mae pwysigrwydd yr economi cymdeithasol o ran creu swyddi newydd a gwasanaethau lleol bellach yn cael ei gydnabod yn llawn gan bob haen o Lywodraeth. Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru gan TUC Cymru ym 1982, ac mae’n bartner allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r sector hwn yn economi Cymru.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru’n rheoli sawl menter o bwys yng Nghymru:

  • Mae’r prosiectau Cefnogi Busnes a Hyfforddiant yn targedu cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol, gan ddarparu cyngor, sgiliau a gwybodaeth iddynt ddod yn fentrau masnachol llwyddiannus. Ers mis Ionawr 2004, mae’r Ganolfan wedi helpu i sefydlu dros 200 o fusnesau gan arwain at greu neu ddiogelu dros 1,000 o swyddi, tra bo 2,000 o unigolion wedi elwa ar gynlluniau hyfforddi’r Ganolfan.
  • Lansiwyd Cymunedau @Ei Gilydd ym mis Ionawr 2006, ac mae’n un o gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn rhedeg y cynllun hwn sy’n galluogi pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i gael gwell llwybr at y dechnoleg fodern, a datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol. Mae’r cynllun yn golygu bod grwpiau cymunedol a gwirfoddol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn gallu manteisio’n llawn ar y wybodaeth, y gwasanaethau a’r cyfleoedd a gynigir gan y dechnoleg newydd.
  • Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag Undebau Credyd yng Nghymru, ac mae’n rheoli sawl menter cynhwysiant ariannol, megis Cronfa Cynnydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r cynllun Adfer Dyledion a Chyngor Ariannol. Trwy’r gwaith hwn, mae’r Ganolfan ar flaen y gad yn yr ymgyrch i gael gwared ag allgau ariannol yng Nghymru.
English
Yn ôl i'r brig
Llys Llandaf, Ffordd Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2XP | Rhif Ffôn: 029 2055 4955 | Ffacs: 029 2055 6170
E-bost: walescoop@walescoop.com

Gwefan gan Bilberry Design