Cymunedau 2.0

Clicio.Cysylltu.Darganfod.
 

Mae technoleg ddigidol, fel ffonau symudol, cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd, yn dod yn rhan bwysig o’n bywydau bob dydd. Fodd bynnag, mae yna lawer o bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru sy’n colli allan ar fanteision technoleg newydd.

Un o brosiectau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau 2.0, a’i nod yw cynorthwyo grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i wneud mwy gyda thechnoleg. Rydym am chwalu’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg, gan ysbrydoli pobl, meithrin hyder a chreu cyfleoedd.
 

Un o raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru ydyw, ac mae’n cael ei ddarparu gan bum mudiad sy’n bartneriaid - Canolfan Cydweithredol Cymru, Grŵp Novas Scarman, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chanolfan Adrodd Storïau Ewart Evans ym Mhrifysgol Morgannwg.

Mae llawer o’r cyllid ar gyfer Cymunedau 2.0 wedi dod o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Os nad ydych yn hollol siŵr a allwn eich helpu, codwch y ffôn am sgwrs gydag un o’n staff cyfeillgar am yr hyn yr ydych am ei wneud ac i weld a allwn eich helpu.

Ein rhif ffôn yw 029 2055 6954
E-Bost: clickconnectdiscover@walescoop.com

www.clickconnectdiscover.org

 


Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop