Diwrnod Masnach Deg y Byd 2010

Sut gall eich mudiad ddathlu Diwrnod Masnach Deg y Byd?

Manteisiwch ar y cyfle i atgoffa eich cwsmeriaid a’ch cydweithwyr am Fasnach Deg. Mae gan Sefydliad Masnach Deg y Byd ddigon o syniadau am ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i’ch ymdrechion.

Mae nifer o fanwerthwyr ar-lein yn cynnig disgownt a chynigion arbennig ar gyfer Diwrnod Masnach Deg y Byd, megis Café Direct ac Ethical Superstore.
 


I ddathlu Diwrnod Masnach Deg y Byd ar Mai 8fed, rydym yn rhannu rysáit arbennig gyda chi – rysáit Masnach Deg gyda naws Gymreig.

alt

Bara Brith Masnach Deg

Cynhwysion:

1 pwys o Flawd Codi
1 pwys o Ffrwythau Cymysg Traidcraft
2 lwy fwrdd o Farmaled Masnach Deg
1 Ŵy Buarth Mawr
4 owns o Siwgr Masnach Deg
1/2 Peint o De Cynnes (du) Masnach Deg
1 llwy de o Sbeis Cymysg wedi’i Falu (Masnach Deg)

Dull:

Cymysgwch y ffrwythau cymysg a’r siwgr mewn bowlen fawr.
Arllwyswch y te dros y gymysgedd a’i throi yn dda, cyn gadael y cyfan i socian dros nos (neu am 8 awr).
Ychwanegwch y blawd, y sbeis, y marmaled a’r ŵy wedi’i guro.
Leiniwch dun torth 3 phwys gyda phapur ‘greaseproof’, rhowch y gymysgedd yn y tun a’i rhoi yn y popty :
Marc nwy 3 / 170c am 1 awr 10 munud.
Gadewch i’r Bara Brith sefyll am 5 munud yna tynnwch hi o’r tun a thynnu´r papur.
Rhowch hi ar rac i oeri.

Busnes a lansiwyd gan ŵr a gwraig yn 2009 yw Food For Thought Conwy. Maent yn coginio amrywiol gacennau a bwydydd cartref traddodiadol Cymreig ym Mhen y Gogarth, Llandudno, gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg. Maent yn gwerthu eu cynnyrch mewn digwyddiadau ac yn cyflenwi busnesau lleol. Cysylltwch â Chris Spree ar 01492 872093.
 


Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop