Faint o deganau a gawsoch chi gan Siôn Corn y Nadolig hwn? Gormod? Gall cynllun newydd ar gyfer ailgylchu teganau a dillad, a lansiwyd i helpu teuluoedd ar incwm isel, eich helpu chi i glirio’ch annibendod.
Patty Diaz-Owen, gyda chymorth Canolfan Cydweithredol Cymru, a ddechreuodd y prosiect ailgylchu dielw hwn yng Ngogledd Cymru er mwyn sicrhau bod teganau a dillad nad oes eu hangen rhagor yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl.
“Ar ôl i fy ngefeilliaid gael eu geni, sylweddolais pa mor anodd fyddai i deuluoedd ar incwm isel allu fforddio i brynu teganau, llyfrau a dillad i’w plant. Cefais y syniad i ailgylchu nwyddau nad oedd rhieni a meithrinfeydd yn eu defnyddio mwyach”, meddai Patty.
Gofynnodd Patty i Ganolfan Cydweithredol Cymru am y cymorth yr oedd ei angen arni i wireddu ei syniad.
“Doeddwn i ddim yn siŵr sut oedd cael cychwyn da i’r prosiect. Ond roedd Canolfan Cydweithredol Cymru yn gefnogol dros ben, a chefais gymorth ganddynt ar bob cam o’r broses", meddai Patty.
Gyda help llaw, gallai Patty sefydlu’r prosiect ailgylchu yng Nghonwy dan yr enw D & G Enterprises Ltd. Roedd Canolfan Cydweithredol Cymru yn fwy na pharod i helpu, o ddarparu cyngor am strwythur cyfreithiol i gefnogi gyda chynllunio’r busnes.
Yn ôl Dylan Owen, Swyddog Cefnogi Busnes Canolfan Cydweithredol Cymru: “Mae D & G Enterprises Ltd, dan arweiniad medrus Patty, yn darparu gwasanaeth y mae galw mawr amdano yng Ngogledd Cymru.”
Ar hyn o bryd, Patty sy’n gyfrifol am adnewyddu a phacio´r nwyddau, a´u danfon i´w cartrefi newydd, ond byddai´n croesawu unrhyw wirfoddolwyr sy´n awyddus i helpu.
“Gallai pobl helpu mewn amryw o ffyrdd, o wnïo neu lanhau dillad, i helpu i godi ymwybyddiaeth am y prosiect.” Efallai fod gennych blentyn yn ei arddegau sy’n awyddus i gael profiad gwaith, neu efallai eich bod chi am wneud defnydd da o’ch amser rhydd – beth bynnag yw eich sefyllfa, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi,” meddai Patty.
