Rydym ni sy’n llofnodi isod yn ymrwymo i wneud Masnach Deg yn rhan o’n harferion busnes.
Rydym yn cadarnhau (os nad yw rhywbeth yn berthnasol, nodwch AMH):
• 1. Ein bod wedi penderfynu y bydd y busnes hwn yn cefnogi, yn hyrwyddo ac yn defnyddio cynnyrch Masnach Deg.
• 2. Ein bod wedi penodi Cydlynydd sy’n gyfrifol am ein polisi Masnach Deg.
• 3. Bod staff yn deall ystyr Masnach Deg, yn sylweddoli’r manteision i’r cynhyrchwyr ac yn ymwybodol o´r amrywiaeth o gynnyrch Masnach Deg sydd ar gael.
• 4. Gall y staff gael lluniaeth Masnach Deg (ticiwch lle bo hynny’n briodol)
• Mae te a choffi Masnach Deg ar gael yn y ceginau
• Mae peiriannau gwerthu’n stocio diodydd a siocledi/bisgedi Masnach Deg
• Mae’r caffi’n darparu te, coffi a byrbrydau Masnach Deg
• 5. Caiff te a choffi Masnach Deg eu darparu mewn cyfarfodydd ac fe’u cynigir i ymwelwyr.
• 6. Wrth drefnu cyfarfodydd mewn canolfannau allanol, byddwn bob amser yn gofyn am luniaeth Masnach Deg.
• 7. Mae ein deunyddiau cyfathrebu (deunyddiau hyrwyddo gan gynnwys gwefan, taflenni, cylchlythyrau, bwydlen, adroddiad blynyddol a chyhoeddiadau mewnol) yn cynnwys erthygl am Fasnach Deg.
• 8. Byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo Masnach Deg o leiaf unwaith y flwyddyn. Er enghraifft yn ystod Pythefnos Masnach Deg, byddwn yn codi stondin neu’n arddangos posteri.
• 9. Mae ein hamrywiaeth o gynnyrch yn cynnig detholiad o gynnyrch Masnach Deg i gwsmeriaid (o leiaf 3 a the a coffi). Rhowch fanylion:
Mynd yr ail filltir dros Fasnach Deg (dewisol)
• Cesglir adnoddau am Fasnach Deg a’u storio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed mwy.
• Byddwn yn anfon cynrychiolydd i’n grŵp llywio Masnach Deg* lleol pan fydd modd.
• Rydym yn chwilio am ffyrdd eraill o gyflwyno Masnach Deg i’n harferion busnes neu o’i hymestyn, megis mwy o amrywiaeth o fwydydd neu wisgoedd.
Rhowch fanylion:
Cyfarwyddwr y Sefydliad_____________ (printiwch eich enw) ___________________
Cydlynydd Masnach Deg _____________ (printiwch eich enw)___________________
Dyddiad:
Sefydliad:
Cyfeiriad busnes:
Ffôn:
E-bost:
Gwefan:
Disgrifiad o´r busnes:
Nifer y staff:
Nodiadau
1 Ceisiwch roi cymaint o fanylion ag sy´n bosibl, e.e. os ydych chi´n rhedeg Gwely a Brecwast neu westy, dywedwch a oes lluniaeth Masnach Deg yn yr ystafelloedd gwely.
2 I gael help i ddod o hyd i gyflenwr, edrychwch ar “Restr cyflenwyr Masnach Deg” Canolfan Cydweithredol Cymru neu ewch i http://www.walescoop.com/cy/site/defaultf233.html. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â ni.
3 *Bydd cynrychiolydd o’ch Grŵp Llywio Masnach Deg lleol yn cael copi o’ch polisi ac efallai’n eich gwahodd i gyfarfod y grŵp. Os na allwch fod yn bresennol yn ystod y flwyddyn, mae’n bosibl y bydd y grŵp yn trefnu i ymweld â chi i wirio’ch polisi.
4 Dyma rai ffyrdd o ddathlu Pythefnos Masnach Deg:
• Ychwanegu nodyn at lofnod E-bost eich cwmni i godi ymwybyddiaeth
• Stondin i werthu cynnyrch yn y cyntedd
• Pryd Masnach deg ar y fwydlen (beth am ei gyfuno â chynnyrch lleol?)
• Gweithiwr yn trefnu cwis neu’n rhoi sgwrs i ysgol neu grŵp lleol
Bydd hyn yn help i chi gynnal eich brwdfrydedd dros Fasnach Deg ar ôl i chi ddatblygu eich polisi.
5 Anfonwch gopi o’ch polisi at:
Elizabeth Hudson, Swyddog Marchnata Masnach Deg, Canolfan Cydweithredol Cymru, Heol y Tyllgoed, Caerdydd CF5 2XP neu anfonwch e-bost at elizabeth.hudson@walescoop.com
Y camau nesaf
Anfonir copi i´ch grŵp llywio Masnach Deg lleol*. Cewch dystysgrif drwy´r post.
Diolch a llongyfarchiadau.
6 Cysylltwch ag Elizabeth Hudson os bydd angen help arnoch i roi cyhoeddusrwydd i´ch polisi newydd. Bydd rhoi cyhoeddusrwydd i’ch polisi yn help i chi godi’ch proffil ac ychwanegu gwerth at eich brand.
• Gwnewch yn siŵr bod eich grŵp llywio Masnach Deg lleol yn gwybod amdanoch chi. Gallent sôn amdanoch yn yr arweiniad Masnach Deg lleol, neu gallech fod yn esiampl o gyflogwr a helpu´ch tref i gael statws Masnach Deg
• Ysgrifennwch ddatganiad i’r wasg i ddweud wrth eich sector neu’r bobl leol am eich polisi (defnyddiwch ein henghraifft o ddatganiad i’r wasg am Bolisi Masnach Deg)
• Dywedwch wrth bobl ar eich gwefan
• Soniwch am eich polisi yn eich Adroddiad Blynyddol a dweud a oes gennych unrhyw ddogfennau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol neu gyfrifo llinell waelod driphlyg
Datblygwyd y polisi mewn cydweithrediad â Fforwm Masnach Deg Cymru. Cefnogir prosiect Cymorth Masnach Deg i Fusnesau Canolfan Cydweithredol Cymru a Fforwm Masnach Deg Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy gyfrwng Fframwaith Cymru i Affrica.
Os hoffech gael gwybodaeth bellach neu gymorth i sefydlu busnes Masnach Deg, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch ag Elizabeth Hudson.
Ffoniwch 029 2055 4955 / 07795 418106
Anfonwch e-bost at elizabeth.hudson@walescoop.com
Ewch i www.walescoop.com
