Gair i Gall

  1. Heb gwsmeriaid, nid oes gennych fusnes. Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o gyfle i gwsmeriaid roi adborth, gofynnwch iddynt beth y maent ei angen, beth y maent yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi, a gweithredwch ar yr hyn a ddywedant.

  2. Mae datganiad i’r wasg yn ffordd effeithiol o roi cyhoeddusrwydd i fenter ac yn wahanol i hysbysebu, nid oes raid i chi dalu amdano. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddatganiad i’r wasg a baratoi gennych yn haeddu’i le yn y newyddion. Mae pynciau posibl yn cynnwys agor adeiladau newydd, sicrhau contractau newydd sylweddol, datblygu gwasanaethau neu gynnyrch newydd, ymweliad gan berson enwog / unigolion adnabyddus ayb. Sicrhewch bod yr holl newyddion yn y paragraff cyntaf a´ch bod yn anfon y datganiad at y bobl gywir – ceisiwch ddarganfod pa newyddiadurwyr/ gohebwyr fyddai â’r diddordeb mwyaf yn eich newyddion.

  3. Bydd rheoli eich amser yn effeithiol yn eich cynorthwyo i gyflawni mwy. Cynlluniwch bob diwrnod drwy ysgrifennu rhestr o ‘bethau i’w gwneud’ gyda’r tasgau pwysicaf ar frig y rhestr. Bydd blaenoriaethu’n sicrhau eich bod yn treulio’ch amser a’ch ymdrechion ar y pethau sydd fwyaf pwysig i chi ac i´ch busnes.

  4. Penderfynwch pwy fydd yn delio ag ymholiadau gan y wasg a sicrhewch bod pob ymholiad yn cael ei gyfeirio at y person hwnnw/honno.

  5. Peidiwch byth â chredu na all sgyrsiau ‘answyddogol’ gyda newyddiadurwyr gael eu defnyddio yn y wasg. Byddwch yn ofalus o’r hyn fyddwch chi´n ei ddweud.

  6. Byddwch yn rhagweithiol. Adeiladwch berthynas gyda newyddiadurwyr ac yna ´bloeddiwch´ am eich llwyddiannau.

  7. Peidiwch â dweud celwydd. Mae’n swnio’n beth amlwg i’w ddweud, ond os ydych chi neu eich sefydliad ar fai – dywedwch hynny ac ymddiheuro.

  8. Byddwch yn ymwybodol o’r terfynau amser tynn y mae newyddiadurwyr yn glynu atynt ac ymatebwch i ymholiadau mewn da bryd.

  9. Byddwch yn glir ynghylch pwy sydd â chyfrifoldeb dros beth yn eich corff. Mae swydd ddisgrifiad yn ffordd dda o egluro pwy sy’n gwneud beth fel na chaiff dim byd ei adael allan (megis ffeilio adroddiadau ariannol).

  10. Gorffennwch gyfarfodydd drwy grynhoi rhestr o bwyntiau gweithredu fel bod pawb yn glir pwys sydd angen gwneud beth cyn eich cyfarfod nesaf – a sicrhewch bod y wybodaeth hon yn cael ei ffeilio.

  11. Mae ffeilio’n fwrn, ond gall arbed amser i chi pan fyddwch angen dod o hyd i bethau, a gall gynorthwyo’ch cydweithwyr is ydych chi’n absennol yn annisgwyl a hwythau angen dod o hyd i rywbeth. Datblygwch system ffeilio a sicrhewch bod pawb yn ei deall.

  12. Cadwch olwg ar eich cwsmeriaid gyda chronfa ddata gyfrifiadurol. Cofnodwch eu henwau a’u manylion cysylltu, ynghyd â gwybodaeth ynghylch beth fyddant yn ei brynu, faint a dalwyd ganddynt a pha bryd y prynasant ef.   Bydd yn adnodd gwerthfawr pan ddeuwch i wneud ymchwil marchnad a gellir ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol (dylech geisio caniatâd eich cwsmeriaid i hyn er mwyn cydymffurfio â rheolau diogelu data).

  13. Cesglwch eirdaon gan eich cwsmeriaid – maent yn ffordd wych o berswadio pobl eraill i defnyddio’ch cynnyrch neu wasanaeth.

  14. Meddyliwch ymlaen llaw. Sefydlwch bolisïau cyn y bydd eu hangen arnoch. Mae gwneud hynny’n helpu i osgoi argyfwng a sefyllfaoedd anodd, ac yn gymorth i ddatrys problemau cyn iddynt godi.

  15. Gall ceisio gwerthu cynnyrch sy’n newydd fod yn ymdrech galed iawn. Nid bod yn gyntaf yw’r peth gorau bob amser, gan eich bod yn gorfod addysgu’r farchnad a’i pherswadio ei bod angen eich cynnyrch. Felly, peidiwch â digalonni os nad yw eich syniad yn un newydd – meddyliwch sut i gallwch ei wneud yn wahanol, drwy gyflwyno rhyw nodwedd neu fudd gwahanol.

  16. Gwnewch gymaint ag y bo modd o ymchwil marchnad. Dylech ddarganfod pethau am eich marchnad, canolbwyntio ar feysydd megis y galw, y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn a maint y farchnad. Siaradwch â chwsmeriaid, cyflenwyr, cystadleuwyr, dosbarthwyr posibl a’r rhai a fu gynt yn gweithio i gystadleuwyr.

  17. Nodwch beth a wneir yn dda ac yn wael gennych, gan eu rhannu i feysydd megis ariannol, marchnata, gweithredol a rheolaeth gyffredinol. Byddwch y onest gyda chi’ch hun, ond hefyd byddwch yn realistig. Bydd canfod eich gwendidau yn eich cynorthwyo i gydnabod yr hyn a wneir yn dda gennych, a pha feysydd yr ydych yn eu dirprwyo i rywun arall, neu’n cael hyfforddiant arnynt.

  18. Cadwch eich Cynllun Busnes yn un cryno. Fformat delfrydol ar gyfer eich cynllun, os ydych yn bwriadu iddo fod at ddefnydd allanol, yw cael rhwng tair a deg tudalen o destun sy’n nodi’r pwyntiau pwysig, ynghyd â chyfres o ffigurau ariannol. Dylid cyfyngu manylion gormodol i  atodiadau.

  19. Gofynnwch i’ch teulu i gymryd rhan. Dylai awyrgylch eich cartref fod yn gefnogol iawn, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Gall eich teulu hefyd fod yn ddefnyddiol fel seinfwrdd, gan helpu gydag ambell i dasg neu ddarparu adborth neu arian. 

  20. Os ydych chi’n gwneud cyflwyniad, profwch yr offer ymlaen llaw; sicrhewch eich bod yn gyfarwydd ag ef cyn dechrau. Mae PowerPoint ac uwch-daflunwyr yn aml yn ymddangos eu bod am eich baglu’n fwriadol, felly sicrhewch mai chi sydd yn rheoli, nid y nhw!

  21. Os ydych chi’n rhoi cyflwyniad, defnyddiwch elfennau gweledol er mwyn rhoi’r darlun mawr yn gyflym, graffeg, lluniau, cartwnau, siartiau bar ayb; gallwch wedyn ddefnyddio geiriau i ymhelaethu. Dim ond gwerth cyfyngedig sydd i sleidiau yn cynnwys geiriau. Os yw’n ymddangos fod gennych lawer iawn ohonynt, efallai eich bod yn dangos eich nodiadau annerch i´ch cynulleidfa!

  22. Dylech drin cyflwyniad fel sgwrs gyda’ch cynulleidfa. Efallai na fyddant yn dweud dim byd, ond dylech wneud iddynt deimlo eich bod yn ymgynghori â hwy, eu bod yn cael eu holi, eu herio, y dadleuir â hwy, ac yna byddant yn aros yn effro ac yn cymryd sylw.

  23. Defnyddiwch wiriwr sillafu bob amser – ond sicrhewch ei fod wedi’i osod ar yr iaith gywir, sef Cymraeg).

  24. Peidiwch â gadael i e-byst sy’n dod i mewn dynnu eich sylw. Deliwch gyda’ch blwch derbyn ar amser penodol (megis am awr ar ôl cinio) a throwch ef i ffwrdd am weddill y diwrnod.

  25. Os ydych chi ysgrifennu dogfen, defnyddiwch frawddegau byr. Bydd mwy na phymtheg o eiriau mewn brawddeg yn lleihau eglurder yr ystyr. Wedi drafftio eich cyfathrebiaeth, chwiliwch am unrhyw atalnod a’r gair ‘a/ac’ a rhwng atalnod llawn yn eu lle.

  26. Peidiwch ag ‘unioni’ testun.  Mae’n ei wneud yn llawer anos ei ddarllen na thestun a aliniwyd i’r chwith, i’r dde neu yn y canol.

  27. Bydd unrhyw ddeunydd printiedig yn edrych yn flêr iawn os byddwch yn defnyddio mwy na dwy fspan wahanol a dau faint gwahanol. Yn gyffredinol, gorau po leiaf.

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop