Gwobrau Mentrau Cymdeithasol

Enillwyr Gwobrau Mentrau Cymdeithasol agoriadol Cymru wedi’u cyhoeddi

Mentrau Cymdeithasol Cymru cyntaf erioed. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews, eu gwobrau i’r cwmnïau llwyddiannus yn ystod seremoni, heddiw, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r cynllun gwobrwyo’n gystadleuaeth genedlaethol newydd sbon i ddod o hyd i’r mentrau cymdeithasol gorau yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn y pendraw.

Dyma enillwyr y tri chategori:

Y Fenter Gymdeithasol Orau (trosiant o £1 filiwn a mwy)

Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth
Mae’n cyflenwi amrywiol wasanaethau, cyrsiau a phrosiectau ar faterion amgylcheddol gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, byw’n gynaliadwy ac ynni adnewyddadwy.

Y Fenter Gymdeithasol Orau (trosiant o lai nag £1 filiwn)

Pack-It Promotions, Caerdydd
Mae’n darparu cyfleoedd hyfforddiant a gwaith cyflogedig parhaol i bobl ag anableddau dysgu mewn amgylchedd pecynnu, storio a dosbarthu.

Y Fenter Gymdeithasol Orau – yn gweithredu ers llai na thair blynedd

Hyfforddiant Beicio Cymru, Caerdydd
Mae’n darparu hyfforddiant a chefnogaeth Beicio Safonol Cenedlaethol i bobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru, er mwyn annog rhagor o bobl i feicio.

Llongyfarchaidau mawr hefyd i Antur Waunfawr, Dynamix a Llanmadoc Community Shop a gafodd eu henwi yn y rhestr fer.

CEFNOGWCH YR ENILLWYR
Mae pob enillydd wedi derbyn £1,000 a chawsant eu rhoi’n awtomatig ar y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth y DU gyfan y mis nesaf; penderfynir ar enillwyr y gystadleuaeth hon drwy bleidlais gyhoeddus ar-lein sydd ar agor o’r 20fed hyd at 30ain Tachwedd yn www.socialenterpriseawards.org.uk.

Gall enillwyr y gystadleuaeth DU gyfan gael hyd at £5,000 ynghyd â phecynnau cymorth busnes a phlatfform cyfryngau cenedlaethol i’w hyrwyddo’u hunain. Gall unrhyw un bleidleisio ar gyfer y fenter gymdeithasol sydd, yn eu tyb nhw, yn haeddu cael ei galw’n orau drwy’r DU ym mhob categori. Bydd y bleidlais gyhoeddus hefyd yn enwi un enillydd yn Fenter Gymdeithasol y Flwyddyn.
 


Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop