Llwyddodd Canolfan Cydweithredol Cymru i ennill y prosiect ‘Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol’. Lansiwyd y prosiect yn swyddogol gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons, ddydd Mercher, 22 Hydref 2008....
Darllen mwy
Mae Cymunedau @Ei Gilydd ar y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau e-Gynhwysiant Ewropeaidd 2008, un o fentrau’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae tri deg a phump o fentrau o sefydliadau cyhoeddus, preifat, elusennol a chymunedol ledled Ewrop wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol. Dewiswyd y prosiectau hyn oherwydd eu defnydd arloesol o Dechnolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu er mwyn helpu Ewropeaid sydd wedi cael eu hallgau’n ddigidol ac yn gymdeithasol. Maent eisoes yn gwella ansawdd bywyd llawer o bobl a dylent helpu i ysbrydoli eraill i wneud mwy....
Darllen mwy
Mae statws Cymru fel y wlad Fasnach Deg gyntaf yn y byd wedi cael hwb gan benderfyniad Trenau Arriva Cymru i newid i werthu te, coffi, siocled poeth a siwgr Masnach Deg ar ei holl wasanaethau....
Darllen mwy
Ffarweliodd y Ganolfan â’i harbenigwr olyniaeth, Norman Watson ym mis Medi. Ymunodd Norman â’r Ganolfan 19 blynedd yn ôl ac roedd wedi dod yn un o’r prif arbenigwyr mewn olyniaeth busnes yng Nghymru....
Darllen mwy
Os yw rhywun yn eich siomi, y ffordd orau o ddod allan o sefyllfa anodd yw sefydlu’ch menter gydweithredol eich hun.
Dyna’n union beth wnaeth pum mam yn Ysgol Gynradd Treorci yn ddiweddar pan glywsant fod y clwb ar ôl ysgol yn cau.
...
Darllen mwy
Mae ffilm a wnaethpwyd gan bobl ifanc o Goleg Cymunedol Tonypandy wedi cael ei dangos yn yr Ŵyl Gwneuthurwyr Ffilmiau Ifanc Cydweithredol yn Bradford. Cynhyrchwyd y ffilm fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Cymunedau @Ei Gilydd....
Darllen mwy
Ymwelodd cyfres deledu boblogaidd The Secret Millionaire â chymdeithas gymunedol yng Ngogledd Cymru ym mis Medi, a chafwyd canlyniadau anhygoel....
Darllen mwy
Mae gan gwmni cludo nwyddau o Lanelli berchnogion lleol unwaith eto, ac mae 10 o swyddi wedi cael eu hachub, ar ôl i’r cwmni gael ei brynu gan y rheolwyr. Cefnogwyd y pryniant gan Nat West a hwyluswyd y broses gan Ganolfan Cydweithredol Cymru....
Darllen mwy
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi cael ei lansio – â chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru – ac mae’n addo rhoi llais cryf i gefnogwyr yr Adar Gleision....
Darllen mwy
Dathlodd dros 177 miliwn o aelodau undebau credyd ar hyd a lled y byd Ddiwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd ar 16 Hydref 2008, gan goffáu hanes a llwyddiannau undebau credyd....
Darllen mwy