Dangoswch eich cefnogaeth i Fasnach Deg drwy fabwysiadu polisi Masnach Deg ar gyfer eich busnes.
Am wneud mwy na dim ond stocio ambell i gynnyrch? Bydd mabwysiadu polisi yn eich helpu i ysgogi staff, i fod yn wahanol i bawb arall, ac wrth gwrs, i gadw’ch cwsmeriaid yn hapus. Os nad ydych wedi´ch argyhoeddi, darllenwch ein taflen ffeithiau marchnata.
Mae cofnod o bolisïau’n gymorth i ni gadw llygad ar y gefnogaeth a geir i Fasnach Deg ym myd busnes. Felly dychwelwch eich polisi atom ac fe anfonwn ni dystysgrif a bag Masnach Deg at eich mudiad.

Mae dogfen Word y gellir ei haddasu ar gael er mwyn i chi allu rhoi eich manylion. Llenwch y ddogfen, ei chadw a’i hanfon atom drwy’r post neu’r e-bost.
I gael help, cysylltwch â´n Swyddog Marchnata Masnach Deg.
Gallwch hefyd ychwanegu eich mudiad at ein map ar-lein o Fasnach Deg yng Nghymru.
