Undebau Credyd

Mae Undebau Credyd yn fentrau ariannol cydweithredol sy’n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan yr aelodau sy’n eu defnyddio. Maen nhw’n cynnig ffordd gyfleus o gynilo ac yn rhoi cyfle i gael gafael ar fenthyciadau cost isel a llu o fanteision eraill. Dewch o hyd i´ch undeb gredyd agosaf.  Chwiliwch am undebau credyd yn ôl sir a´u gweld ar fap.
 

alt

Fel arfer mae aelodaeth o Undebau Credyd yn seiliedig ar ‘gysylltiad cyffredin’, ar sail lle mae pobl yn gweithio neu’n byw. Gall oedolion a phlant ddod yn aelodau o undebau credyd. 

Mae aelodau o undeb credyd yn cynilo mewn cronfa arian gyffredin. Defnyddir y gronfa hon i wneud benthyciadau llog isel i aelodau’r undeb. Mae’r holl log a godir ar ad-daliadau’r benthyciadau yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr undeb credyd, heb fod unrhyw beth yn gadael y gymuned o gwbl.

Beth yw’r manteision?

Mae llawer o fanteision  wrth ymuno ag undeb credyd:

  • Benthyciadau cost-isel
    Yn gyffredinol, benthyciad gan undeb credyd yw’r ffordd rataf o fenthyca £2,000 neu lai ac mae’n aml yn fwy cystadleuol na benthycwyr eraill am symiau mwy
  • Elw da ar gynilion
    Bydd nifer o undebau credyd llwyddiannus yn talu difidend blynyddol ar gynilion
  • Cyfleuster cynilion diogel
    Fel banciau a chymdeithasau adeiladu, rheoleiddir undebau credyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fel y gallwch deimlo’n hyderus bod eich arian yn diogel.
  •  Manteision eraill gan gynnwys yswiriant bywyd yn gynwysedig

Ar hyn o bryd mae 30 o undebau credyd yng Nghymru. Yn rhyngwladol, mae Undebau Credyd yn gweithredu mewn 92 o wledydd, gan wasanaethu dros 150 miliwn o aelodau.

Mae’r Ganolfan hefyd yn gweithio’n agos gydag undebau credyd yng Nghymru drwy gytundeb â´r Adran Gwaith a Phensiynau a luniwyd i fynd i’r afael ag allgau ariannol. Am fwy o fanylion am waith yr Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol cysylltwch â Katija.dew@walescoop.com.



Dolenni

Abcul: www.abcul.coop
Canolfan Cyngor Ar Bopeth: www.citizensadvice.org.uk
Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr: www.cccs.co.uk
Cymdeithas Genedlaethol Gweithwyr Undebau Credyd: www.nacuw.org.uk
Cyngor Undebau Credyd y Byd: www.woccu.org
CU@theCU: www.cuinschools.org

 

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop