Newyddion diweddaraf o´r sector

Gwobr Cydnabod Llwyddiant i Reolwr Undeb Credyd

Cyflwynwyd un o Wobrau Cydnabod Llwyddiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i Barry Roberts, rheolwr Undeb Credyd Llandudno, am ei gyfraniad i’r mudiad undeb credyd a chynhwysiant ariannol.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, y wobr yn y Derbyniad ‘Cydnabod Llwyddiant’ cyntaf ar gyfer pobl yng Nhanolbarth a Gogledd Cymru. Canmolwyd unigolion yng Nghymru am eu cyfraniad “neilltuol” wrth helpu pobl drwy sefyllfaoedd anodd.
Deilliodd y Gwobrau Cydnabod Llwyddiant o ymdeimlad cynyddol o falchder yng Nghymru a´r galw am gydnabod llwyddiant.
 

Dywedodd y Prif Weinidog: “Yn ystod y 10 mlynedd ers datganoli, mae ymdeimlad cynyddol o falchder wedi bod yng Nghymru ac awch am gael cydnabod ein llwyddiannau. Mae´r Derbyniad Cydnabod Llwyddiannau yn rhoi’r union gyfle hwnnw i ni.

“Mae’n bleser cael bod yn rhan o´r gwobrau hyn ac i ddathlu´r gwaith y mae pobl gyffredin Cymru yn gwneud ar gyfer eraill. Nid gwobrwyo cyfrifoldebau o ddydd i ddydd yw amcan y gwobrwyon hyn, ond yn hytrach gwobrwyo’r cyfraniad eithriadol er budd eraill. Mae’n brofiad gostyngedig iawn i glywed rhai o’r storïau sy’n gysylltiedig â’r gwobrau hyn, ac rwy’n falch fod y rheini a wobrwir yn cael y gydnabyddiaeth a haeddant.”

Roedd Barry yn aelod o’r tîm gwreiddiol a sefydlodd Undeb Credyd Llandudno yn 1996. Bellach mae 3000 o aelodau´n perthyn i´r Undeb Credyd gyda £1.8 miliwn o gynilion. Dyma’r Undeb Credyd cyntaf yng Nghymru i gynnig cyfrifon banc gyda chardiau debyd. Meddai Barry: “Fel arfer, rwy’n osgoi sylw ond mae´r wobr hon wedi gwneud i mi deimlo´n falch iawn, yn enwedig gan ei bod yn nodi, ‘Am Wasanaethau i Gymru’ ac yn cydnabod y gwaith rwyf wedi’i wneud nid yn unig i Landudno ond ar gyfer y mudiad Undeb Credyd yng Nghymru”.

Meddai Katija Dew, Hyrwyddwr Cynhwysiant Ariannol Cymru “Mae Barry yn rheolwr Undeb Credyd ymroddedig dros ben sydd wedi helpu cymaint o bobl. Mae’n berson delfrydol i gael gwobr mor nodedig.”
 

02 Tac 2009