Newyddion diweddaraf o´r sector

Gwobr Menter Gymdeithasol y DU i gwmni o Gymru

Mae cwmni Pack-IT Promotions sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd wedi’i enwi’n un o enillwyr y Gwobrau Menter Gymdeithasol cyntaf erioed yn rownd derfynol y DU. Mae’r cwmni pacio a dosbarthu yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl a chanddynt anableddau dysgu, a neithiwr mewn seremoni yn Llundain enillodd y cwmni yr wobr am Fenter Gymdeithasol Orau’r DU gyda throsiant o dan £1 miliwn. Mae hyn yn dilyn llwyddiant diweddar y sefydliad yn yr un categori yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol Cymru.

Hefyd yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU yr oedd Canolfan y Dechnoleg Amgen, a oedd yn un o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori’r Fenter Gymdeithasol Orau gyda throsiant o fwy na £1 miliwn a Hyfforddiant Beicio Cymru, a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori’r Fenter Gymdeithasol Newydd Orau.

Pleidlais ar-lein gan y cyhoedd oedd yn penderfynu canlyniad y gystadleuaeth i’r DU gyfan. Mae’r cynllun gwobrau – sy’n newydd eleni – yn gystadleuaeth genedlaethol i ddod o hyd i’r mentrau cymdeithasol gorau ym Mhrydain.

Dywedodd John Bennett, Rheolwr Gyfarwyddwr, Pack-IT Promotions: “Diolch i bawb a bleidleisiodd drosom ni. Mae´r wobr hon yn brawf o gyfraniad fy staff. Rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 21 oed eleni ac mae pob un o’m cydweithwyr dros y blynyddoedd wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cwmni. Mae’r wobr hon hefyd yn cydnabod y ffaith y gall mentrau cymdeithasol barhau am gyfnod hir, ac nid yw hyn yn rhywbeth hawdd ei gyflawni, ond os ydych chi’n arloesol ac yn greadigol a bod y model busnes cywir gennych chi, gallwch lwyddo fel menter gymdeithasol a bod yn gynaliadwy.”

Yn ogystal â’r wobr hon, mae Pack-IT Promotions wedi ennill £1,000, pecynnau cymorth busnes a llwyfan yn y cyfryngau cenedlaethol i hyrwyddo´i hunain.

Yng Nghymru, y Cynghrair Menter Gymdeithasol fu’n cynnal y gwobrau mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Dywedodd Simon Harris, Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog i John a’r tîm yn Pack-IT. Maent yn enillwyr haeddiannol dros ben ac yn llysgenhadon y sector menter gymdeithasol yng Nghymru ac yn y DU. Mae Pack-IT, ynghyd â Chanolfan y Dechnoleg Amgen a Hyfforddiant Beicio Cymru, wedi rhoi mentrau cymdeithasol Cymru ar y map ac wedi dangos eu bod yn gallu cystadlu ar lwyfan cenedlaethol. Mae pob un ohonynt yn fusnesau gwneud elw – ond mae’r gwahaniaeth yn y ffordd y caiff yr elw hwnnw ei ail-fuddsoddi. Mae pob un ohonynt yn sicrhau bod pobl a chymunedau yn cael cyfleoedd bywyd enfawr ac maent yn canolbwyntio ar faterion ‘ansawdd bywyd’ go iawn.”

Dywedodd Claire Dove, cadeirydd y Cynghrair Menter Gymdeithasol: “Carwn estyn fy llongyfarchion gwresog i Pack-IT ar eu llwyddiant. Maent yn fenter gymdeithasol anhygoel ac mae eu 21 mlynedd o fasnachu yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Edrychaf ymlaen at eu gweld hwy a’r enillwyr eraill o Gymru eto yng Nghaerdydd y mis Chwefror hwn ar gyfer cynhadledd genedlaethol y Cynghrair ar gyfer mentrau cymdeithasol – Voice ’10.”

Mae rhagor o wybodaeth am y gwobrau ar gael yn www.socialenterpriseawards.org.uk a www.walescoop.com.
 

04 Rha 2009