mwy na 40,000 o oedolion a 7,500 o aelodau iau yn perthyn i undebau credyd yng Nghymru, a’r cynilion mewn cyfrifon undebau credyd oedolion yn cyrraedd £16 miliwn, dywedodd y Gweinidog fod undebau credyd, ar adeg pan oedd y marchnadoedd byd-eang mor gythryblus, yn darparu opsiwn sy’n fwyfwy cyfeillgar a lleol, ac sy’n cynnig ystod o wasanaethau ariannol i bobl. Wrth i’r Nadolig a digwyddiadau tebyg nesáu, gall undebau credyd ddarparu credyd mwy fforddiadwy i’w haelodau.
Mae sefydlu mudiad llwyddiannus a chynaliadwy o undebau credyd ar hyd a lled y wlad yn ymrwymiad yn Cymru’n Un.
Dywedodd Dr Gibbons fod llwyddo i sicrhau bod undebau credyd yn cynnwys pob cwr o Gymru yn garreg filltir bwysig.
Meddai’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
Ar adeg economaidd fel hon, mae’n ddealladwy bod hyder yn y prif gyflenwyr gwasanaethau ariannol ar i lawr. Mae undebau credyd yn gweithredu wrth i’r aelodau gynilo mewn cronfa gyffredin. Mae modd wedyn defnyddio’r gronfa hon i wneud benthyciadau llog isel i aelodau’r undeb credyd. Caiff unrhyw arian dros ben ar ôl rhoi benthyciadau ei ail-fuddsoddi yn yr undeb credyd neu’i ailddosbarthu i’r aelodau ar ffurf difidend. O ganlyniad, nid oes dim yn gadael y gymuned.
Oherwydd eu dull o weithredu, gall undebau credyd helpu rwystro allgáu ariannol ac adfer hyder defnyddwyr a dyna y maent yn ei wneud. O’r herwydd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gynorthwyo’r mudiad, gan helpu undebau credyd i ddatblygu a thyfu, er mwyn gwireddu eu potensial yn llawn fel mentrau cymdeithasol a chanolbwynt yn eu cymunedau.
Dywedodd y Gweinidog i Lywodraeth y Cynulliad fuddsoddi £1.75 miliwn er 2000 er mwyn datblygu mudiad cryf a chynaliadwy a fydd yn cael ei ddiogelu ac yn sylfaen i adeiladu arni.
Meddai Dr Brian Gibbons:
Rydym wedi addo £1.75 miliwn ymhellach i gyflawni ein hymrwymiadau am undebau credyd yn Cymru’n Un, gan gynnwys sicrhau darpariaeth i Gymru gyfan, trefnu bod modd i ddisgyblion uwchradd fanteisio arnynt, a helpu mwy i gynnig cyfrifon cronfeydd ymddiriedolaeth plant.
Mae heddiw’n dechrau cyfnod newydd yn hanes undebau credyd yng Nghymru, pan fydd modd i ni adeiladu ymhellach ar sail ein partneriaeth lwyddiannus hyd yma.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
16 Hyd 2008