Newyddion diweddaraf o´r sector

Cynllun newydd i roi hwb i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Heddiw (dydd Llun 9 Chwefror), lansiodd Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, gynllun newydd i gryfhau’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru. 

Mae’r Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol yn nodi sut bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda sefydliadau partner i hyrwyddo mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Y nod yw creu sector ffyniannus a fydd yn cefnogi adfywio cymunedol ac economaidd, ac yn creu swyddi lleol.

Mae’r cynllun yn cynnwys ugain cam allweddol i helpu’r sector i ehangu, i ddatblygu mentrau sy’n bodoli eisoes, ac i sefydlu mentrau cymdeithasol newydd.

Meddai’r Dirprwy Weinidog: “Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae mentrau cymdeithasol yn fwy perthnasol nag erioed. Mae menter gymdeithasol wedi bod wrth galon cymunedau yng Nghymru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ers cyfnod Robert Owen, tad-cu’r cwmnïau cydweithredol, hyd at Aneurin Bevan a sefydlu’r GIG, a Glofa’r Tŵr, bu Cymru’n flaenllaw ym maes menter gymdeithasol.

“Bydd y cynllun newydd yn adeiladu ar yr hanes hwn i gryfhau ymhellach ein diwylliant menter gymdeithasol, er mwyn mynd i’r afael â heriau’r unfed ganrif ar hugain. Mae menter gymdeithasol gref yn elfen allweddol yn y broses o adfywio ein cymunedau. Bydd yn creu swyddi lleol sydd nid yn unig yn fuddiol i’r gweithwyr ond i’r gymuned hefyd.”

Bydd mudiad newydd yn cael ei sefydlu i hyrwyddo menter gymdeithasol a chyflawni rhannau allweddol o’r cynllun. Bydd y Glymblaid Menter Gymdeithasol yn cynnal ymgyrch bwysig i godi ymwybyddiaeth, yn recriwtio mentrau braenaru i helpu sefydliadau eraill i ddatblygu, yn annog entrepreneuriaid cymdeithasol ifanc, ac yn cynnal cynadleddau allweddol ar fenter gymdeithasol.

Bydd y Glymblaid yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru, sydd eisoes wedi sicrhau arian o gronfa gydgyfeirio Ewrop ac arian cyfatebol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru – gwerth cyfanswm o £7.1 miliwn – ar gyfer y Prosiect Cymorth i Fentrau Cymdeithasol.

Bydd grŵp newydd hefyd yn cael ei sefydlu i roi cyngor i Weinidogion am fenter gymdeithasol. Bydd Grŵp Cynghori´r Gweinidog yn gyswllt uniongyrchol rhwng Gweinidogion ac arbenigwyr ym maes menter gymdeithasol. Bydd aelodau’r grŵp yn cael eu penodi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys datblygu’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Mae hon yn gronfa gwerth £8 miliwn i helpu sefydliadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol i adnewyddu adeiladau cyhoeddus, a hynny er mwyn cynnig gwasanaethau i’r gymuned.

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Bydd Clymblaid Menter Gymdeithasol Cymru yn allweddol i gyflwyno’r cynllun hwn, i godi proffil mentrau cymdeithasol, i annog mwy o bobl i’w sefydlu, ac i ddathlu llwyddiant y sector yng Nghymru. Rydw i’n edrych ymlaen at weld perthynas agos yn datblygu rhwng y Glymblaid a Chanolfan Cydweithredol Cymru.

“Bydd y grŵp cynghori newydd yn help i gadw fy mys ar bwls y sector, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw.

“Mae llawer o fanteision posibl i’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol trwy berchnogaeth gymunedol ar adeiladau – gellir sefydlu busnesau cymdeithasol; gall gweithgareddau cymunedol ddatblygu; gall grwpiau cymunedol sy’n berchen ar asedau gynhyrchu refeniw. Bydd hyn oll yn arwain at gymuned gryfach a mwy hyderus.”
 

12 Chw 2009