Beth yw Menter Gydweithredol?

Diffiniad:

Mae menter neu fusnes cydweithredol yn gymdeithas annibynnol o bobl sydd wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd i ddiwallu’r anghenion a’r dyheadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n gyffredin iddynt trwy gyfrwng menter sy’n eiddo i bob un o’r aelodau ac sy’n cael ei rhedeg mewn ffordd ddemocrataidd.

Mae pob menter gydweithredol drwy’r byd yn rhannu’r gwerthoedd a’r egwyddorion hyn.

alt

Gwerthoedd:

Mae mentrau cydweithredol yn seiliedig ar werthoedd hunangymorth, hunan-gyfrifoldeb, democratiaeth, cydraddoldeb, cyfiawnder ac undod. Yn nhraddodiad eu sylfaenwyr, mae aelodau menter gydweithredol yn credu yn y gwerthoedd moesol o fod yn onest, agored, dangos cyfrifoldeb cymdeithasol a gofalu am eraill.

Egwyddorion:

Dyma’r canllawiau y mae mentrau Cydweithredol yn eu dilyn wrth roi eu gwerthoedd ar waith:

Egwyddorion Cydweithredol

Mae pob menter gydweithredol yn fusnes sy’n berchen i ac yn cael eu rheoli gan eu haelodau. Dylai busnesau cydweithredol weithredu o fewn saith egwyddor gydweithredol sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

Egwyddor 1: Aelodaeth Wirfoddol ac Agored
Mae mentrau cydweithredol yn agored eu haelodaeth ac yn gweithredu heb wahaniaethu.

Egwyddor 2: Rheolaeth Ddemocrataidd
Mae mentrau cydweithredol yn sefydliadau democrataidd sy’n cael eu rheoli gan eu haelodau, sy’n cymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae cynrychiolwyr yn cael eu hethol ac maen nhw’n atebol i’r aelodaeth.

Egwyddor 3: Cyfranogiad Economaidd yr Aelodau
Mae aelodau yn cyfrannu’n gyfartal at gyfalaf eu menter gydweithredol, ac yn ei rheoli’n ddemocrataidd.

Egwyddor 4: Awtonomi ac Annibyniaeth
Mae mentrau cydweithredol yn sefydliadau hunanlywodraethol, hunan-gymorth sy’n cael eu rheoli gan eu haelodau. Os byddant yn llunio cytundebau gyda sefydliadau eraill, neu’n codi arian cyfalaf o ffynonellau allanol, maen nhw’n gwneud hynny ar delerau sy’n sicrhau y cedwir rheolaeth ddemocrataidd eu haelodau ac ymreolaeth eu cwmni.

Egwyddor 5: Addysg, Hyfforddiant a Gwybodaeth
Mae mentrau cydweithredol yn darparu addysg a hyfforddiant i’w haelodau, eu cynrychiolwyr etholedig, eu rheolwyr a’u gweithwyr fel y medrant gyfrannu’n effeithiol at ddatblygu’r cwmni. Maen nhw’n hysbysu’r cyhoedd – yn enwedig pobl ifanc ac arweinwyr barn – am natur a manteision mentrau cydweithredol.

Egwyddor 6: Cydweithredu gyda Chwmnïau Cydweithredol eraill
Mae mentrau cydweithredol yn gwasanaethu eu haelodau orau ac yn cryfhau’r mudiad cydweithredol trwy weithio gyda’i gilydd trwy gyfrwng strwythurau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol. Mae dysgu gyda’i gilydd yn un ffordd o wneud cysylltiadau positif rhwng sefydliadau sydd modd adeiladu ymhellach arnynt.

Egwyddor 7: Pryder dros y Gymuned
Mae mentrau cydweithredol yn gweithio ar gyfer datblygu eu cymunedau yn gynaliadwy trwy bolisïau sydd wedi eu cymeradwyo gan eu haelodau.

Dyfyniad o’r Datganiad o Hunaniaeth Cydweithredol, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cynghrair Cydweithredol Rhyngwladol yn 1995


Dolenni Perthnasol:

Cynghrair Cydweithredol Rhyngwladol: www.ica.coop
Co-operatives UK: www.cooperatives-uk.coop

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop