Ein Prosiectau

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru’n rheoli sawl menter o bwys yng Nghymru:

Cefnogi Busnes


Mae’r prosiect Cefnogi Busnes yn darparu cyngor a hyfforddiant i fentrau cydweithredol a chymdeithasol, fel y gallant ddod yn fusnesau llwyddiannus.

Cynhwysiant Digidol


Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn un o gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn rhedeg y cynllun hwn sy’n galluogi pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i gael defnyddio technoleg fodern, a dysgu sgiliau cyfrifiadurol.

Cynhwysiant Ariannol


Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag Undebau Credyd yng Nghymru, ac mae’n rheoli sawl prosiect cynhwysiant ariannol, fel Cronfa Cynnydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r cynllun Adfer Dyledion a Chyngor Ariannol.


Islwytho

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop