Cefnogaeth i Fentrau Cymdeithasol a Chwmnïau Cydweithredol

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cefnogi datblygiad a thwf entrepreneuriaid cymdeithasol, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol mewn ardaloedd Cydgyfeirio yng Nghymru.

Mae ein tîm o gynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda grwpiau sydd eisiau sefydlu menter gymdeithasol newydd neu gwmni cydweithredol. Rydym hefyd yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol sy’n bodoli eisoes ac sydd eisiau tyfu neu ddatblygu.

Mae pob grŵp yn gweithio gyda chynghorydd arbenigol, sy’n dyfeisio cynllun gweithredu ar eu cyfer. Yna caiff y cynllun hwn ei gyflenwi gan amrywiol ymgynghorwyr sydd ag arbenigedd mewn meysydd megis cynllunio busnes, strwythurau cyfreithiol, personél, cyllid a marchnata.

Rhoddir cefnogaeth hefyd drwy hyfforddiant, mentora, dosbarthiadau meistri a rhwydweithio.

Ariennir y cymorth hwn drwy gyfrwng rhaglenni Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd gydag arian cyfatebol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae´r rhan fwyaf o´n cymorth wedi´i neilltuo i gynnig cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chydweithredol mewn ardaloedd Cydgyfeirio yng Nghymru.  Fodd bynnag, gallai mentrau cydweithredol newydd a´r rheini sy´n bodoli eisoes y tu allan i´r ardaloedd Cydgyfeirio yng Nghymru fod yn gymwys i gael cymorth gan Gymorth i Fentrau Cydweithredol.

Areinnir Cymorth i Fentrau Cydweithredol gan y Grwp Cydweithredol mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru a chonsortiwm.  Mae´n darparu pecyn o gymorth a chefnogaeth i helpu mentrau cydweithredol newyd a´r rhai sy´n bodoli eisoes ddatblygu´n fusnesau mwy cynaliadwy.  Am fwy o wybodaeth gallwch lawrlwytho´r daflen wybodaeth isod.

Gall mentrau cymdeithasol yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Sir y Fflint a Wrecsam gysylltu â Chymorth Hyblyg i Fusnes (rhif ffôn: 03000 6 03000).  Byddant yn asesu´ch anghenion ac os yn briodol yn darparu arian i fentrau cydweithredol sy´n bodoli eisoes a´r rhai sy´n dangos y gallu i dyfu er mwyn i chi allu caffael eich cynghorydd eich hun.  Os hoffech chi gaffael Canolfan Cydweithredol Cymru i gyflawni´r gwaith, yn syml galwch ni am bris. 



Islwytho


Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop