Trosolwg

Mae hyfforddiant o ansawdd da yn darparu sylfaen ar gyfer busnes llwyddiannus. Nid yn unig y mae’n cynyddu hyder a sgiliau unigolion, ond mae hefyd yn helpu i sicrhau y gall y busnes fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad.

Canolfan Cydweithredol Cymru yw’r prif ddarparwr hyfforddiant ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru.Mae´r gweithdai a ddarperir wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer busnesau newydd neu bresennol gan gynnwys undebau credyd, mentrau cymdeithasol a grwpiau eraill nid-er-elw. Mae hyfforddiant ar gael i aelodau, cyfarwyddwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr.

Mae’r Ganolfan wedi bod yn cefnogi’r Trydydd Sector ers dros 25 mlynedd. Mae ei thim profiadol o hyfforddwyr yn meddu ar y wybodaeth arbenigol a´r sgiliau i sicrhau bod ei holl hyfforddiant yn ymarferol, yn berthnasol, yn ysbrydolgar ac yn bleserus.

Sut i archebu lle ar gwrs hyfforddi:

  •  Islwytho ffurflen archebu ar-lein (gweler isod)
  •  Postio eich ffurflen archebu lle at Sarah Broughton, Gweinyddwraig Hyfforddiant, Canolfan Cydweithredol Cymru, Llys Llandaf, Ffordd Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2XP
  • Ffacsio eich ffurflen archebu at 029 2055 6170
  • Os ydych yn talu am hyfforddiant, gyrrwch siec am y swm llawn yn daladwy i Ganolfan Cydweithredol Cymru, neu nodwch os hoffech i ni anfon anfoneb i’ch mudiad.

Polisi Canslo a Throsglwyddo

  • Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar weithdai Canolfan Cydweithredol Cymru, felly byddwn yn gweithredu polisi canslo i ad- dalu neu drosglwyddo ffioedd gweithdy.
  • Wedi i chi dderbyn cadarnhad o’ch lle yn y gweithdy, bydd y ffi lawn yn daladwy gennych, oni bai ein bod yn derbyn hysbysiad o ganslo.
  • Ar gyfer archebion a ganslir bum niwrnod gwaith neu fwy cyn dechrau’r gweithdy, caiff 100 y cant o’r ffioedd gweithdy a dalwyd eu had-dalu neu eu trosglwyddo i weithdy neu gynrychiolydd arall.
  • Ar gyfer Undebau Credyd sy’n archebu lle am ddim mewn gweithdy, byddwn yn codi ffi o £25 + TAW os caiff y lle ei ganslo lai na phum niwrnod gwaith cyn dyddiad yr hyfforddiant. Bydd y ffi hon hefyd yn berthnasol ar gyfer methu mynychu’r cwrs.
  • Ni roddir ad-daliad am archebion a ganslir lai na phum niwrnod gwaith cyn y digwyddiad, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â disgresiwn y Rheolwr Hyfforddi. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried trosglwyddo ffi’r gweithdy i weithdy arall.
  • Ni roddir ad-daliad am absenoldeb yn y gweithdy.
  • Os bydd Canolfan Cydweithredol Cymru’n canslo digwyddiad hyfforddi, byddwn yn ymdrechu i hysbysu pob cyfranogwr bum niwrnod gwaith cyn dyddiad cynnal y gweithdy, ond byddwch yn ymwybodol na fydd hyn yn bosibl bob tro. Caiff yr holl ffioedd gweithdai eu had-dalu’n llawn, ond ni allwn ad-dalu unrhyw gostau eraill y gallech fod wedi’u talu, gan gynnwys teithio, llety ac ati.
  • Os bydd Canolfan Cydweithredol Cymru’n newid dyddiadau, caiff cyfranogwyr gweithdai ofyn am ad-daliad llawn os nad yw’r dyddiadau newydd yn gyfleus.
  • Gallwch ganslo trwy anfon e-bost, ffacs, llythyr neu drwy ffonio.
  • Codir ffioedd canslo hefyd ar gyfer hyfforddiant sydd wedi´i drefnu´n arbennig ar eich cyfer.


Dolenni

Coleg Cydweithredol: www.co-op.ac.uk
Y Sefydliad Cymreig dros Ymchwil i Fentrau cydweithredol: www.uwic.ac.uk/ubs/research/wirc
UWIC MBA mewn Entrepreneuriaeth Gymdeithasol: www.uwic.ac.uk/courses/business/MBASocialE.asp


Eitemau i’w llwytho i lawr

Amserlen Hyfforddiant
Ffurflen Archebu


Islwytho

alt

alt

Cymunedau @Ei Gilydd logo